Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 6
Gorffennaf 2021
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
Mae'r Llywydd wedi penderfynu y bydd Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 34.14A-D, yn gallu pleidleisio o unrhyw leoliad drwy ddull electronig.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
(45 munud)
Mae’r Llywydd wedi cael gwybod, o dan Reol Sefydlog 12.58, bydd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd yn ateb cwestiynau ar ran y Prif Weinidog.
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
3 Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Y Rhaglen Ddeddfwriaethol
(60 munud)
4 Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Fforddiadwyedd, Ail Gartrefi a'r Gymraeg
(45 munud)
Dogfennau Ategol
Ail gartrefi: datblygu polisïau newydd yng Nghymru
5 Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Diwygio'r Cwricwlwm - Y Camau Nesaf
(45 munud)
6 Datganiad gan Weinidog yr Economi: Dyfodol y Diwydiant Dur
(45 munud)
7 Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Papur Gwyn ar Ailgydbwyso Gofal a Chymorth – y camau nesaf
(45 munud)
Dogfennau Ategol
Papur Gwyn – Ailgydbwyso gofal a chymorth
Ymgynghoriad – crynodeb o’r ymateb: Ailgydbwyso gofal a chymorth
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 7 Gorffennaf 2021